Cernyweg a'i hadfywiad

Dyma addasiad fy nghyflwyniad y wnes i ar gyfer dosbarth trafod yn y brifysgol ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’r iaith Gernyweg yn dod o’r tafodieithoedd de-orllewinol Brythoneg, a felly, mae hi’n perthyn yn agos i Gymraeg a Llydaweg, er bod hi’n perthyn yn agosach i Lydaweg na Chymraeg. Ac mae hi’n perthyn yn llai agos i Wyddeleg, Gaeleg yr Alban, a Manaweg.

Mae Cernyweg yn cael ei wahanu i mewn yr iaith draddodiadol a’r iaith adfywiedig. Roedd yr iaith draddodiadol yn iaith gymunedol y siaradid fel iaith gyntaf yng Nghernyw ac Ynysoedd Syllan. Mae’r iaith draddodiadol yn gallu cael ei rhannu i mewn tri chyfnod – Hen Gernyweg, Cernyweg Canol, a Chernyweg Diweddar. Roedd y cyfnod Hen Gernyw o 800 i 1200, roedd y cyfnod Cernyweg Canol o 1200 i 1600, ac roedd y cyfnod Cernyweg Diweddar o 1600 i tua 1800.

Mae’r iaith adfywiedig sy gyda sawl ffurfiau y gwnaethpwyd gan sawl o bobl yn ystod y 1900au.

Yn 1300, roedd ‘na 38,000 o siaradwyr Cernyweg iaith gyntaf.

Roedd yr iaith Gernyweg yn dirywio’r fawr yn ystod teyrnasiad y Tuduriaid, achos o’r Diwygiad Protestannaidd. Roedd Cernyweg wedi bod yn Gatholig am y mwyaf, ac roedd y Diwygiad yn lleihau’r berthynas rhwng Cernyw â Llydaw. Hefyd, gorfodid pobl Gernyw i ddefnyddio Llyfr y Weddi Gyffredin yn Saesneg, ac i wneud popeth crefyddol yn Saesneg, ac roedd hynny’n cyfrannu’n fawr i Gernyweg yn dirywio. Roed gwrthryfel yn 1549 yn erbyn Llyfr y Weddi Saesneg, ond methodd e a lladdwyd arweinydd y gwrthryfel.

Meddylir bod Cheston Marchant yr olaf siaradwraig uniaith. Daeth hi o Godhyan (Gwithian yn Saesneg) yng ngorllewin Cernyw, a bu hi farw yn 1676. Ond, mae llawer o bobl yn meddwl bod Dolly Pentreath y siaradwraig olaf sy gyda gwybodaeth dywieithog iaith gyntaf yr iaith. Ond, dadleuir hyn gan pobl Gernyweg a sgolorion. Daeth hi o Porthenys (Mousehole), yng ngorllewin Cernyw hefyd, a bu hi farw yn 1777. Hefyd, roedd ‘na pobl eraill yn gallu siarad yr iaith, o leiaf tipyn, yn ôl rhai o bobl. Mae’n bosib bod John Davey, sy’n dod o Eglossenar (Zennor) a bu fe farw yn 1891, yn gallu siarad yr iaith yn rhugl.

Serch hynny, doedd y mwyafrif o bobl ddim yn gallu siarad Cernyweg erbyn hynny. Roedd nifer o siaradwyr wedi lleihau i 22,000 erbyn 1600, ac i 5,000 erbyn 1700.

Meddylir y dechreuodd yr adfywiad yn 1904, pan cyhoeddodd Henry Jenner ei lyfr “A Handbook of the Cornish Language”.

Doedd dim modd unedig i ysgrifennu Cernyweg cyn yr adfywiad, efallai roedd ‘na chwech neu fwy. Felly roedd rhaid creu orgraff safonol wrth yr iaith yn cael ei hadfywio. Yn “A Handbook of the Cornish Language”, gwnaeth Henry Jenner geisio system sillafu gyson, yn deillio o destunau Cernyweg Canol diweddar. Ers hynny, gwnaethpwyd sawl o orgraffau, yn deillio o amrywiaeth o destunau hanesyddol a chyfnodau Cernyweg. Yn 2008, gwnaeth y prif grwpiau iaith Cernyweg wneud y Ffurf Ysgrifenedig Safonol, yn deillio o ffurfiau cynharach Cernyweg. Roedd Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn gadael grwpiau’r iaith Gernyweg i gael arian o’r llywodraeth, ac yn gadael yr iaith i gael ei chydnabod.

Heddiw, mae’r iaith Gernyweg yn cael ei chydnabod fel iaith lleiafrifol yng Nghernyw, ond dydy hi ddim yn cael ei chydnabod fel iaith swyddogol y Deyrnas Unedig.

Mae’r iaith yn un o’r ieithoedd sy mewn perygl mwyaf yn y gwledydd Celtaidd. Yn 2010, cyhoeddodd UNESCO “Atlas of the World’s Languages in Danger”, ac mae’r iaith Cernyweg mewn perygl enfawr. Ond, cam enfawr y iaith ydy hyn, achos nad ydy’r iaith yn cael ei hystyried fel iaith farw’n bellach, er bod hi’n drist i ddweud bod perygl enfawr yn beth dda.

Yn ôl y cyfrifiad yn 2021, dywedodd 471 o bobl yng Nghernyw eu bod nhw’n gallu siarad Cernyweg, ac yn y Deyrnas Unedig cyfan, dywedodd 563 o bobl eu bod nhw’n gallu. Yn anfoddus, dydy hyn ddim yn llawer o siaradwyr o gwbl eto, ond mae diddordeb yn yr iaith ar gynnydd, ac roedd cynnydd bach mewn nifer siaradwyr Cernyweg ers y cyfrifiad yn 2011, felly, gobeithio bydd pethau’n gwella.

Ffynonellau